Wedi'i ddarparu mewn partneriaeth rhwng yr Adran Busnes a Masnach a Llywodraeth Cymru ar ran y Cyngor Allforio Bwyd a Diod

 

Mae'r digwyddiad rhwydweithio rhad ac am ddim hwn ar gyfer allforwyr bwyd a diod sydd wedi'u lleoli yng Nghymru a De-orllewin Lloegr ac sy'n bwriadu cynyddu eu hallforion, ehangu i farchnadoedd newydd, a datblygu eu rhwydweithiau.

Pam mynychu?


Bydd y digwyddiad hwn sydd yn rhad ac am ddim i'w fynychu yn cynnwys sesiynau rhyngweithiol ar:

 

  • Sut i ddatblygu eich brand mewn marchnadoedd rhyngwladol
  • Sut i oresgyn rhwystrau i allforio, a
  • Dewis o sesiynau grŵp yn trafod dogfennaeth allforio, cyllido eich cynllun allforio, neu gael samplau i mewn i'r UE.

Byddwch yn clywed gan arweinwyr busnes, cymheiriaid ac arbenigwyr yn y sector bwyd a diod i'ch helpu i gynyddu eich allforion. Bydd un o’r prif siaradwr Stephen Davies, Prif Swyddog Gweithredol, Penderyn, yn rhannu sut y datblygodd Penderyn ei frand yn rhyngwladol. Mae’r siaradwyr gwadd hefyd yn cynnwys:

 

  • Tee Sandhu, SamosaCo
  • Margaret Boanas, Cymdeithas y Fasnach Gig Ryngwladol
  • Sandra Sullivan, Cymdeithas Allforwyr Bwyd a Diod
  • Cath White, Belvoir Farm
  • Adriana Santos, The Tracklement Company
  • Stuart McNally, Calon Wen
  • Yash Dhutia, Ferraris Coffee

Bydd cynrychiolwyr o'r sectorau cyhoeddus yn ogystal â phreifat wrth law trwy gydol y dydd i ddweud wrthych am y gwasanaethau cymorth allforio maen nhw'n gallu eu cynnig, gan gynnwys:

 

  • Y Sefydliad Allforio a Masnach Rhyngwladol
  • Gwasanaeth Cymorth Allforio ac Academi Allforio
  • Cymdeithas Allforwyr Bwyd a Diod
  • Cyllid Allforio y DU
  • Llywodraeth Cymru
  • Santander Navigator

Byddwch hefyd yn cael y cyfle i rwydweithio â'ch cymheiriaid, siaradwyr, a'n hamrediad o arddangoswyr trwy gydol y dydd.


Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg.


Noder mai dim ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael a’u bod yn amodol ar gymeradwyaeth gan yr Adran Busnes a Masnach a Llywodraeth Cymru.

 

Cyfeiriad:

Vale Resort
Hensol Road
Hensol
Pontyclun
CF72 8JY